Mae'r hanes cryno hwn yn datblygu. Dilynwch y lincs i gael mwy o wybodaeth
This brief history is evolving follow the links for more information.
e-bostiwch cyfraniadau @ e-mail contributions
Oriel hen Lluniau / Historical Photo Gallery
|
Pentref masnachol pwysig canolbarth y Penrhyn yn nechrau'r ganrif ddwaetha gyda'i ffair flynyddol ac arwerthiannau anifeiliaid. Pum tafarn wedi bod - tair yn aros o hyd. Yn y tafarnau Y byddai'r porthmyn moch a'r porthmyn gwartheg yn trafod eu busnes gyda'r ffermwyr lleol. 'Roedd cwt pwyso moch tafarn Sarn Fawr - Penrhyn Arms - ar ei draed yn ddiweddar fel rhan o'r crochendy sydd ar y groesffordd erbyn hyn. Yn ystod Rhyfel 1939-45 yr oedd Penbont yn ganolfan fasnachol bwysig, yn gartre'r loriau fyddai'n cario'r cerrig hearn (manganese) o waith y Rhiw ac yn cario'r llwythi cwnhingod yn wynthnosol i Lerpwl a Manceinion. Mae cwmni Farmers' Mart, Dolgellau yn dal i redeg y mart ddydd Iau a dydd Sadwrn bob wythnos. Safle'r Ysgol Gymradd (wedi ei throi yn dy) ar Allt y Graig Las ar y ffordd i Frynmawr. Carreg yn y mur yn nodi i'r tir gael ei gyflwyno gan yr Arglwydd Penrhyn yn Rhelyw y tai yn perthyn i stad y Penrhyn hyd yn ddiweddar - egluro 'Penrhyn Terrace ynghanol y pentre a Pretoria Terrace yr ochor uchaf ar y ffordd i Fryncroes. Modurdy R a G Williams - Peiriannau Amaethyddol ar yr allt ar y briffordd, a rhan isaf yr adeilad yn weddill hen adeilad y ffatri gaws sefydlwyd tua 1913 fel menter gydweithredol ond a aeth yn fethdalwr ymhen ychydig flynyddoedd.
|
Sarn was an important market town for the centre of Llyn during the start of the last century.There was an annual fair and livestock market. There used to be five public houses of which three remain. It was in the pubs that the drovers discussed business with the local farmers. The pig weighing hut for the 'Sarn Fawr'-now the Penrhyn Arms was still standing untill recently as part of the pottery on the junction. During the second world war the Penbont was an important centre as the place where the lorries for transporting the manganese from Rhiw were kept. They carried loads of rabbit weekly to Liverpool and Manchester. The mart is still held on Thursday and Saturdays. The old school (now a house) on the hill towards Brynmawr has a stone in the wall noteing that the land was presented by Lord Penrhyn who owned at one time most of the houses as part of the Penrhyn estate. Penrhyn Terrace in the centre of the village and Pretoria Terrace on the road to Bryncroes show this clearly. The Agricultural Engineers on the hill on the way out of Sarn. The lower part of this building was once part of the old cheese factory building that was set up around 1913 as a co-operative but ran into financial difficulties a few years later.
|
|
Bws "Cambrian" yn Sarn. Trip pnawn dydd iau, rhwng 1906 a 1913. Safle Sarn Home Safle Hanes / History Home Dogfennau / Documents |
|
e-bostiwch cyfraniadau @ e-mail contributions
|
© penllyn.com 2000
|
||