|
|
Y
Oesoedd
Canol
Yn
ystod y rhan fwyaf o'r Oesoedd Canol, y pedair teyrnas, Gwynedd,
Powys, Deheubarth a Morgannwg, oedd cyfansoddiad gwleidyddol Cymru.
Rhenid pob un o'r rhain yn gantrefi, ac is-rennid pob cantref
wedyn yn gymydau, a phob cwmwd yn cynnwys nifer o drefydd neu
drefeysydd. Sylwer, fodd bynnag fod cantref a chwmwd yn dermau
trawsgyfnewidiol yng Nghyfreithiau Cymru. O'r ddau, dichon mai'r
cantref oedd y trefniant cynharaf, a dichon mai is-raniad hwylusach
oedd 'cwmwd' a fabwysiadawyd tua adeg y Goncwest Normanaidd, er
nad oes sicrwydd o gwbl o hyn.
Yr
oedd yn Llyn, yr ardal ffrwythlon wedi ei hamgylchu a'r mor, dri
chwmwd: Dinllaen (gyda'r gaer ym Mhortinllaen) oedd yn ymestyn
o'r Eifl i Garn Fadryn a'i llys brenhinol yn Nefyn; Cymydmaen,
yn ymestyn o Garn Fadryn i Aberdaron, a'i llys yn Neigwl; ac Afflogion
ar draethau Bae Ceredigion o Ynysoedd St Tudwal i'r afon Erch
a Phwllheli yn ganolfan. Yr oedd hefyd yn y cantref y clas yn
Aberdaron a'r Ynys Enlli enwog.
|
|
|
The
Middle ages
During the greater part of the Middle
Ages, Wales consisted politically of the four great kingdoms of
Gwynedd, Powys, Deheubarth, and Morgannwg. Each of these was divided
into cantrefs (or hundreds), and each cantref in its turn was
subdivided into commotes or cymydau, a cymwd consisting of a number
of trefs or townships. It should be noted, however, that cantrefs
and cymydau are interchange able terms in the Welsh Laws. Of the
two, the cantref was possibly the older organisation; the cymwd
may have been a convenient subdivision brought in about the time
of the Norman Conquest, though this is by no means certain.
This
remote, sea-locked but fertile region of Llyn consisted of three
commotes: Dinllaen (with its fort on Porth dinllaen), which stretched
from the Rivals to Garn Fadryn, and had its royal manor at Nefyn;
Cymydmaen, which extended from Carn Fadryn to Aberdaron, with
its court at Neigwl; and Afloegion (or Cafflogion in its corrupt
form), on the shores of Cardigan Bay from St. Tudwal's Isles to
the river Erch, with Pwllheli as its centre. There were also within
the cantref the clas at Aberdaron and the famous Isle of Bardsey.
|
|
|